Eogiaid
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno ar “newidiadau mawr” yn y ffordd y maen nhw’n amddiffyn eogiaid gwyllt yn nyfroedd Cymru.

Mae’r corff yn bwriadu cwtogi ar eu gwaith o stocio eogiaid erbyn 2015, drwy gau eu deorfeydd ym Mawddach, ger Dolgellau a Maerdy ger Corwen.

Mae’n dilyn adolygiad o ymchwil gwyddonol wnaeth ddangos fod eogiaid gafodd eu magu mewn deorfa, sef mewn amgylchiadau artiffisial, yn llai tebyg o oroesi na physgod gwyllt, a’u bod yn gallu niweidio poblogaethau eog gwyllt sydd eisoes yn bodoli.

Bydd deorfa Cynrig, ger Aberhonddu, yn aros ar agor ac fe fydd CNC yn ystyried datblygu canolfan ymchwil dŵr croyw ar y safle.

Effeithiol

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru bod y newidiadau am gyfrannu at y dasg o wella ansawdd y dŵr ar gyfer eogiaid a physgod eraill:
“Rydym yn frwdfrydig am wneud yn siŵr bod gan Gymru boblogaeth o eogiaid iach a chynaliadwy. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddefnyddio ein hadnoddau mor effeithiol â phosibl.

“Rydym wedi gwneud llawer dros y blynyddoedd i wella ansawdd dŵr ac, ynghyd â’n partneriaid, i wella cynefinoedd a datrys rhwystrau i fudo. Credwn fod y manteision hyn yn dechrau cael effaith, a bydd hyn yn gwella cyflwr dŵr croyw ar gyfer eogiaid a physgod eraill.”

Bydd arian a godwyd o werthu’r deorfeydd yn cael ei ddefnyddio i wella’r pysgodfeydd yn yr afonydd sydd wedi’u cael eu stocio’n flaenorol, gan gynnwys gwaith i wella’r cynefinoedd neu agor llwybrau mudol newydd.