Mae’r cwmni benthyg arian Wonga wedi cyhoeddi y bydd yn canslo dyledion 330,000 o bobol, ar ôl cyfaddef rhoi benthyciadau i bobol oedd methu fforddio i’w talu nôl.

Bydd dyledion gwerth tua £220 miliwn yn cael eu canslo yn gyfan gwbl gan y cwmni.

Roedd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi dweud bod yn rhaid i Wonga wneud newidiadau i’w drefniadau busnes ar frys.

O ganlyniad, bydd tua 330,000 o bobol sydd wedi bod mewn dyled gyda Wonga am fwy ‘na 30 diwrnod yn gweld eu benthyciadau’n cael eu canslo.

Bydd tua 45,000 o bobol sydd wedi bod mewn dyled am lai na 29 diwrnod yn cael cynnig talu eu dyled dros gyfnod hirach.

Trefn

Dywedodd cadeirydd newydd Wonga, Andy Haste: “Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn benthyg arian i’r bobol sy’n gallu fforddio i’w dalu nôl yn unig, ac yn ystod fy arolwg o’r cwmni fe ddaeth i’r amlwg nad yw hyn wedi bod yn digwydd.”

Mae Archesgob Caergrawnt, rhywun sydd wedi lleisio gwrthwynebiad cryf i fenthyciadau diwrnod cyflog, wedi croesawu’r cyhoeddiad.