Huw Lewis
Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am benderfynu cefnu ar eu targed o gyrraedd yr 20 gwlad orau o ran safonau addysg rhyngwladol Pisa.

Mae’r cynllun newydd yn rhan o gynllun ‘Cymwys am Oes’ sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Y Gweindiog Addysg Huw Lewis.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar Pisa, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu anelu am sgôr o 500 ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth erbyn 2021.

Dywed y Ceidwadwyr fod y newid cyfeiriad yn golygu y bydd Cymru’n codi o fod y wlad waethaf o ran y safonau ymhlith gwledydd Prydain i fod yr ail waethaf.

‘Gwarth’

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns fod perygl na fydd addysg yn gwella o dan y drefn newydd.

Dywedodd: “Uchelgais mawr Llafur o ran addysg nawr yw codi perfformiad Cymru o’r wlad sy’n perfformio waethaf yn y DU i’r ail waethaf erbyn 2021.

“Nid dyhead yw hwn, ond aros yn yr unfan.

“Mae’r nod wan newydd yn dangos diffyg uchelgais ar gyfer pobol ifanc ac mae’n rhoi gwisg newydd ar gyrraedd man cymedrol o fewn degawd fel rhyw fath o gyflawniad.

“Cyrhaeddodd Lloegr a’r Alban gyfartaledd o dros 500 ddwy flynedd yn ôl, ond nawr mae gweinidogion Llafur fel pe baen nhw’n meddwl y bydd gwledydd eraill yn llacio o ran codi safonau tra bod Llafur yn dal i fyny.”

Ychwanegodd ei fod yn “ddiwrnod du ar obeithion addysg Cymru” a’i bod yn “warth” bod “tanberfformio yn parhau o ran sgiliau bywyd sylfaenol heb ei wirio bron yn ddi-ben-draw”.

‘Dim cysondeb’

Mae llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod diffyg cysondeb yn eu dulliau o wella addysg.

“Yn y gorffennol, dywedodd Gweinidog Addysg Llafur y byddai gollwng y targed hwn yn dangos diffyg uchelgais, ond dyna’n union mae o wedi’i wneud heddiw.

“Dydy Llywodraeth Cymru erioed wedi bod yn gyson ynghylch yr hyn mae’n ei ddisgwyl o ganlyniadau PISA.

“Byddai’r Prif Weinidog yn dweud un peth a’i Weinidog Addysg yn dweud rhywbeth arall.

“Mae system addysg Cymru wedi cael ei thrin fel tegan yn rhy hir gan un Gweinidog Addysg Llafur ar ôl y llall.

“Maen nhw’n parhau i newid ac yn gwrthod gadael i unrhyw newidiadau fynd yn sefydlog.

“Yr wythnos diwethaf, fe welson ni ffars y system fandio yn cael ei gollwng wedi mynnu o hyd ac o hyd y byddai’n cael aros.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno cysondeb.”