Mam Yusra Hussien
Mae rhieni merch 15 oed o Fryste sydd ar goll, ac sy’n cael ei hamau o fod wedi teithio i Syria ar ôl cael ei radicaleiddio, wedi gwneud apêl iddi ddychwelyd adref.
Mae’r heddlu’n credu bod Yusra Hussien wedi hedfan o Heathrow i Dwrci gyda merch arall 17 oed yr wythnos diwethaf, a’i bod yn bwriadu teithio dros y ffin i Syria.
Cafodd Yusra Hussien ei gweld am y tro diwethaf ar 24 Medi ac mae ei rheini’n gofyn iddi ddod yn ôl atyn nhw’n ddiogel “cyn gynted ag sy’n bosib”:
“Wrth i ddiwrnod ar ôl diwrnod basio, rydym yn mynd yn fwy pryderus am ei diogelwch.
“Mae ein merch yn ifanc, deallus iawn ac mae ei rhieni, ei ffrindiau ei hathrawon a’i chymuned yn ei charu.
“Rydym ni fel teulu yn torri ein calonnau ac am ei chael hi’n anodd iawn ymdopi hefo’r sefyllfa yma.”