Mae corff wedi cael ei ddarganfod ar safle yng Ngogledd Iwerddon lle cafodd dyn ei gipio a’i lofruddio yn 1978.

Mae lle i gredu bod corff Brendan Megraw o Sir Meath wedi cael ei gladdu’n gyfrinachol gan yr IRA.

Cafodd y gweddillion eu darganfod gan gontractwyr oedd yn paratoi’r safle ar gyfer gwaith archeolegol.

Mae disgwyl i’r awdurdodau gynnal post mortem cyn i’r corff gael ei adnabod yn ffurfiol.

Roedd Brendan Megraw ymhlith 17 o bobol a gafodd eu cipio, eu llofruddio a’u claddu gan weriniaethwyr.

Mae’r awdurdodau hefyd yn chwilio am gyrff Kevin McKee a Seamus Wright, dau ddyn a gafodd eu cipio gan yr IRA yn 1972.

Mae lle i gredu bod Joseph Lynskey, cyn-fynach o orllewin Belfast, hefyd wedi cael ei gladdu yn yr ardal yn 1972.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n chwilio am unigolyn lleol a allai fod yn allweddol i’r achos.

Roedd yr IRA wedi honni yn 1978 fod Megraw wedi cyfaddef ei fod yn ysbïwr ar ran Prydain ac yn asiant cudd.

Cafodd teulu Brendan Megraw wybod bod y corff wedi cael ei ddarganfod y bore ma.