Ar nos Iau 16 Hydref bydd cyfres sebon Pobol y Cwm yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Cwmderi’n ffair o ddigwyddiadau rhwng cyhoeddiadau annisgwyl, hen wynebau’n dychwelyd a datblygiadau cyffrous yn cael eu datgelu am ddyfodol y Cwm a’i drigolion …

Ond mae carreg filltir nodweddiadol fel hon yn cynnig cyfle i edrych yn ôl, yn ogystal ag edrych ymlaen.

Dros y blynyddoedd mae llond gwlad o gymeriadau lliwgar wedi diddanu cynulleidfaoedd S4C yn nosweithiol ar Pobol y Cwm, a nawr, wrth i ni agosáu at y pen-blwydd mawr daw cyfle i chi fwrw pleidlais a dweud pwy yw eich hoff gymeriad chwedlonol chi o Gwmderi dros y degawdau.

Cyn i bawb ddechrau codi dyrnau a gweiddi enwau sydd ddim ar y rhestr, rydym yn ymwybodol y byddai’r rhestr wedi gallu bod deirgwaith ei maint, ond roedd rhaid tynnu llinell yn rhywle!

Felly does neb wedi anghofio am Gareth Wyn na Glan, Bella na Brandon, Stan na Sabrina, i enwi dim ond llond llaw.

Os ydych chi’n credu bod cymeriad wedi cael cam, croeso i chi bleidleisio dros yr opsiwn ‘Rhywun Arall’ a nodi person rydych chi’n credu sydd wedi’u gadael allan yn y sylwadau isod.

Ond dyma’r deg dethol wedi’u dewis gan S4C, felly beth am hel atgofion am Gwmderi, a dewis eich hoff gymeriad o’r degawdau?


Created with flickr slideshow.

Maggie ‘Post’ Tushingham

Reg Harries

Mark Jones

Hywel Llewelyn

Dani Thomas

Kath Jones

Mrs Mac (Jean McGurk Morris)

Dic ‘Deryn’ Ashurst

Meic Pierce

Gina Phillips

Caiff canlyniad y bleidlais ei gyhoeddi ar ddiwrnod y pen-blwydd, sef dydd Iau 16 Hydref, a gallwch bleidleisio isod: