Mae cyn aelod o’r Fyddin wedi cael ei harestio fel rhan o ymchwiliad Elveden ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd y ddynes 25 oed ei harestio yn ei chartref yn Swydd Nottingham y bore ma.

Mae 87 o bobol bellach wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad a gafodd ei lansio yn dilyn y sgandal hacio ffonau.

Mae’r ymchwiliad bellach wedi cael ei ehangu i gynnwys sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus.