Mae dyn 23 oed sy’n wreiddiol o Lithwania wedi cael ei garcharu am 22 o flynyddoedd am lofruddio’i ferch fach deufis oed.

Cafwyd Aurimas Medvedevas yn euog o frathu, taro a siglo’r babi ar Fedi 5 y llynedd.

Roedd mam y babi wedi dychwelyd i’r gwaith y diwrnod hwnnw yn dilyn cyfnod mamolaeth.

Daeth Dzesika Urbikaite, 22, o hyd i’r babi wedi marw yn ei chrud yn eu cartref yn Peterborough y noson honno.

Plediodd Medvedevas yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddio ar ddechrau ei brawf yn yr Old Bailey, ond newidiodd ei ble yn ddiweddarach.

Dywedodd y barnwr fod anafiadau’r babi “bron tu hwnt i grediniaeth”.