Alice Gross (Llun: Heddlu Llundain)
Mae heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad y ferch ysgol Alice Gross wedi datgelu fod y dyn y maen nhw’n chwilio amdano wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn y gorffennol.

Mae’r heddlu yn chwilio am Arnis Zalkalns, adeiladwr 41 oed o Latfia, a gafodd ei gyhuddo o lofruddio yn 1998 ac a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn anweddus yn ardal Ealing yn 2009.

Cafodd ei weld ar CCTV ger llwybr camlas y Grand Union yn Hanwell yn Llundain lle gwelwyd Alice Gross, 14, am y tro olaf.

Does neb wedi gweld Alice Gross ers brynhawn 28 Awst.