Andy Murray (Llun: PA)
Mae’r chwaraewr tennis Andy Murray wedi cael ei fygwth ar wefannau cymdeithasol wedi iddo ddatgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch ‘Ie’ yn refferendwm yr Alban.

Ac mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn cadw llygad ar y sylwadau, sy’n cynnwys un arbennig o giaidd am drychineb Dunblane – lle’r oedd Andy Murray yn ddisgybl ysgol.

Penderfynodd Murray drydar ei deimladau neithiwr, yn dilyn cyfnod o beidio gwneud sylw am y refferendwm.

‘Negyddol’

Wrth drydar, dywedodd Murray ei fod e wedi gwneud ei benderfyniad am fod yr ymgyrch ‘Na’ mor negatif.

Er ei gefnogaeth, fydd gan Murray ddim hawl i bleidleisio gan nad yw’n byw yn yr Alban ar hyn o bryd.

Ond dywedodd un unigolyn ei fod yn difaru na chafodd Murray ei ladd yn nhrychineb Dunblane.

Cefnogwyr ‘Na’ hefyd

Mae cefnogwyr i’r ymgyrch ‘Na’ hefyd wedi cael eu sarhau yn ystod yr ymgyrchu, gan gynnwys y canwr David Bowie a’r awdures JK Rowling.