Vincent Tan - dim cyfiawnhad i ddal i gyflogi (Jon Candy CCA 2.0)
Gwahaniaeth mewn syniadau am bêl-droed oedd wedi arwain at ymddiswyddiad Ole Gunar Soskjaer, yn ôl Cadeirydd clwb Caerdydd.

Ond fe  bwysleisiodd Mehmet Dalman eu bod nhw wedi gwahanu’n gyfeillgar a bfod Solskjaer a’r clwb wedi cytuno ei fod yn gywir i ymddiswoddo o fod yn rheolwr.

Un dehongliad fydd fod Soskjaer yn rhoi rhy ychydig o sylw i amddiffyn ar ôl gwario’n drwm ar ymosodwyr a cholli gêmau trwy amddiffyn gwael.

‘Ffrind da’

“Mae Ole wedi bod yn berson proffesiynol i weithio gydag e ers iddo gyrraedd y clwb,” meddai Mehmet Dalman.

“Oherwydd gwahaniaeth yn ein hathroniaeth o ran y gêm, rydym wedi penderfynu gwahanu mewn modd cyfeillgar.

“Fe fydd croeso o hyd iddo fe a’i deulu yng nghlwb Caerdydd. Rwy’n gwybod fy mod wedi gwneud ffrind da yr wy’n dymuno’n dda iddo ac rwy’n hyderus y bydd e’n llwyddiannus yn y dyfodol.”

Diolch i’w gilydd

Ychwanegodd perchennog y clwb, Vincent Tan nad oedd canlyniadau diweddar Caerdydd yn cyfiawnhau parhau i gyflogi Solskjaer.

Ychwanegodd fod Solskjaer yn “onest ac yn broffesiynol”, ac ategodd fod croeso iddo yn y clwb yn y dyfodol.

Diolchodd Solskjaer i Vincent Tan “am y cyfle i reoli Clwb Pêl-droed Caerdydd”, gan ychwanegu ei fod yn ei barchu.

Bydd Danny Gabbidon a Scott Young yn gyfrifol am y tîm ar gyfer eu taith i Derby ddydd Sadwrn.