Mae Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu’r Alban, Brian Docherty wedi gwadu y bu cynnydd mewn torcyfraith ac anhrefn yn ystod yr ymgyrch annibyniaeth yn Yr Alban.
Ychwanegodd fod “awyrgylch dda” yn y wlad yn ystod yr ymgyrch, er y bu’r ymgyrchu’n frwd.
Dywedodd na ddylai’r heddlu na phobol gyffredin Yr Alban “gael eu defnyddio fel pêl-droed wleidyddol ar unrhyw adeg ac yn enwedig yn ystod oriau ola’r ymgyrch refferendwm”.
Beirniadodd y “rhethreg sydd wedi cael ei or-bwysleisio”, gan ddweud nad yw’r Alban ar fin “dadintegreiddio’n gymdeithasol”.
Mewn datganiad, ychwanegodd: “Yn y cyfnod hwn, mae’n bwysicach nag erioed fod unigolion – boed yn wleidyddion, yn newyddiadurwyr neu bwy bynnag, yn ystyried eu geiriau’n ofalus, yn cadw eu pennau ac yn gweithredu mewn modd parchus.
“Dydy parch ddim yn cael ei ddangos trwy awgrymu fod lleiafrif o dwpsod difeddwl yn cynrychioli unrhyw beth.”
Ychwanegodd fod yr ymgyrch wedi “codi ymwybyddiaeth wleidyddol ar draws bob rhan o’r gymdeithas”.
Bydd pobol Yr Alban yn pleidleisio yn y refferendwm yfory.