Mae’r ymgyrch o blaid ac yn erbyn annibyniaeth wedi bod yn gwneud un ymdrech olaf i ymgyrchu heddiw cyn i bobl yr Alban bleidleisio yn y refferendwm fory.

Gyda’r gorsafoedd pleidleisio yn agor bore fory, mae’r ddwy ochr wedi bod yn gwneud eu gorau i berswadio’r rheiny sydd heb benderfynu eto i gefnogi’u hymgyrch nhw.

Mewn araith yng Nglasgow heddiw fe fynnodd y cyn-brif weinidog Llafur Gordon Brown fod yr SNP yn “ceisio torri pob cyswllt gwleidyddol a chyfansoddiadol gyda’n cymdogion a’n ffrindiau yn y Deyrnas Unedig”.

Dywedodd hefyd ei fod yn hyderus y bydd “mwyafrif tawel” o bobl yn dod allan a phleidleisio Na fory.

Ond fe fynnodd Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond ei fod yn hyderus y bydd pobl yn dewis annibyniaeth, a bod neges negyddol yr ymgyrch Na wedi cyfrannu’n fawr at hynny.

“Mae fy hyder i’n seiliedig ar beth sy’n digwydd ar strydoedd ac yng nghymunedau’r Alban,” meddai Salmond.

“Dw i’n teimlo fod symudiad sylweddol tuag at Ie oherwydd bod pobl yn deall fod hwn yn gyfle unigryw i gymryd rheolaeth o’n gwlad ein hunain.”

Fe ddangosodd tri phôl ar gyfer papurau newydd heddiw fod Na fymryn ar y blaen ddiwrnod cyn y bleidlais, o 52%-48%.

Ac fe ddywedodd David Cameron na fyddai’n ymddiswyddo fel Prif Weinidog Prydain hyd yn oed os yw’r Alban yn pleidleisio Ie.

Mwy o bwerau?

Ddoe fe arwyddodd David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg addewid yn dweud y byddan nhw’n cynnig rhagor o bwerau a gwarchod cyllid yr Alban os oedden nhw’n pleidleisio Na.

A heddiw fe ddywedodd Alistair Darling y dylai unrhyw un oedd ddim yn siŵr sut oedden nhw am bleidleisio i ddewis Na.

“Os oes gennych chi benderfyniad mawr mae’n rhaid i chi gael sicrwydd, ond beth sy’n glir ar ôl ymgyrch hir yw nad oes sicrwydd o gwbl o ochr y cenedlaetholwyr,” meddai Darling.

“I unrhyw un yn yr Alban sydd ag unrhyw amheuaeth, peidiwch ag amau o gwbl fod rhaid i chi ddweud Na.”

Addewid

Ond mae Aelodau Seneddol Lloegr bellach wedi cwestiynu addewid arweinwyr y tair plaid Brydeinig, gyda nifer o Dorïaid meinciau cefn yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi rhagor o bwerau a chyllid i’r Alban.

Ac yn ôl Nicola Sturgeon, dirprwy brif weinidog yr Alban, mae hynny’n dystiolaeth nad oes modd ymddiried yn addewid pleidiau Llundain i gynnig beth mae pobl yr Alban eisiau.

“Dyw sgrambl yr ymgyrch Na o banig i geisio llwgrwobrwyo pobl yr Alban gyda chynnig munud olaf ddiystyr ddim yn twyllo unrhyw un,” meddai Sturgeon.

“Er nad yw’r ‘addewid’ yn gwarantu’r un pŵer, dim ond 24 awr mae wedi’i gymryd i ddisgyn i ddarnau – mae ASau Torïaidd eisoes yn gandryll am y peth.”

Ac wrth siarad â rali Ie yng Nglasgow heddiw, fe ddywedodd cadeirydd Yes Scotland a’r cyn-AS Llafur Denis Canavan mai un ffordd yn unig oedd sicrhau bod yr Alban yn cael rhagor o bwerau.

“Dim ond un peth all warantu rhagor o bwerau i Senedd yr Alban, a hynny yw pleidleisio Ie,” meddai.

“Felly ewch a’r neges yna allan i bob stryd, pob dinas, pob tref, pob pentref, pob cymuned, pob lle gwaith, pob cartref yn yr Alban.”