Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn galw am ymchwiliad annibynnol i holl wasanaethau iechyd Cymru yn dilyn “pryderon gwirioneddol” am ddyfodol cynaladwyedd y gwasanaeth.
Yn ôl ysgrifennydd BMA Cymru, Richard Lewis, mae angen gwneud “newidiadau allweddol er mwyn sicrhau mai’r cleifion sy’n cael eu rhoi gyntaf.”
Ychwanegodd bod rhaid creu “diwylliant lle mae staff yn cael eu cefnogi a bod eu pryderon yn cael eu clywed.”
Methiannau
Daeth Adroddiad Andrews, a fu’n edrych ar safon y gofal yn Ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell Nedd Port Talbot, i’r casgliad ym mis Mehefin bod nifer o fethiannau yn safon y gofal yno.
“Ry’n ni eisiau edrych ar allu gweithwyr i godi pryderon yn y gweithle fel yr oedd yr alwad yn ymchwiliad sgandal Mid Staffs (yn Lloegr),” meddai Richard Lewis.
“Byddai hynny’n ein galluogi i wneud newidiadau allweddol yn y Gwasanaeth Iechyd er mwyn sicrhau mai’r cleifion sy’n cael eu rhoi gyntaf.
“Mae’n rhaid i ddoctoriaid allu codi pryderon ac i’r Gwasanaeth Iechyd newid ei ddiwylliant fel ei fod yn croesawu pobol sydd â phryderon yn y gweithle. Byddai hynny’n sicrhau bod safon yn gwella a bod gofal cleifion yn cael ei gynnal.
“Yn dilyn adborth aelodau, dyw’r system bresennol ddim yn eu galluogi i leisio eu pryderon.
“Ry’n ni’n galw ar ddiwylliant lle mae staff yn cael eu cefnogi a bod eu pryderon yn cael eu clywed.”