Mae hyd at 800 o swyddi wedi cael eu hachub o fewn cwmni Phones 4u, yn dilyn cytundeb gyda Dixons Carphone.

Roedd hyd at 5,600 o swyddi yn y fantol wedi i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Llun.

Yn ôl adroddiadau, mae Vodafone ac EE mewn trafodaethau i brynu rhannau o’r cwmni.

Mae gan Phones 4u oddeutu 550 o siopau yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys 20 yng Nghymru.

Wrth drydar heddiw, dywedodd cwmni Dixons Carphone eu bod wedi sicrhau swyddi 800 o staff Phones 4u sy’n gweithio o fewn Currys a PC World.

Yn ôl cytundeb cyn i Dixons uno gyda’r Carphone Warehouse, roedd Phones 4u yn gyfrifol am sicrhau busnes ffonau symudol mewn 160 o siopau mawr y cwmni tan fis Mai’r flwyddyn nesaf.