Pennie Davis
Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo dyn sydd wedi’i amau o lofruddio dynes yn y New Forest yn Swydd Hampshire.
Mae Justin Robertson, 36, wedi’i gyhuddo o lofruddio Pennie Davis ar Fedi 2, ac fe ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerwynt heddiw.
Cafwyd hyd i gorff y ddynes mewn cae yn Beaulieu yn y sir, ac roedd hi wedi cael ei thrywanu nifer o weithiau.
Cafodd Robertson ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn cyflwyno ple ar Ragfyr 18, ac mae disgwyl i’r achos ddechrau ym mis Mawrth.
Mae’r tri sydd wedi cael eu harestio – dynes 28 oed a dau ddyn 29 a 46 oed yn cael eu holi mewn perthynas â’r achos.
Mae wyth o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad hyd yn hyn.
Mae dynes 28 oed gafodd ei harestio’r wythnos diwethaf ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae dynes arall a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder hefyd wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth, ac mi fydd hi’n ymddangos gerbron Llys y Goron Caerwynt ar Hydref 1.
Mae dyn 22 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, tra bod dyn 37 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr hefyd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mrs Davis, a 47-year-old supermarket worker was discovered by her husband, Pete, with multiple stab wounds in a field near Beaulieu, Hampshire.