Roedd chwyddiant wedi arafu i 1.5% fis diwethaf wrth i gwsmeriaid elwa o brisiau petrol is a’r gystadleuaeth barhaol gan archfarchnadoedd i gadw eu prisiau’n isel.

Mae’r ffigwr yn golygu bod Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi aros yn is na’r targed o 2% am wyth mis yn olynol – y cyfnod hiraf ers 2005.

Prisiau petrol is yn ogystal â bwyd a diodydd meddal oedd yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad o 0.1% yng ngraddfa chwyddiant, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fe allai’r ffigwr roi llai o bwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog sydd wedi aros yn 0.5% am fwy na phum mlynedd.