Mae’r dyn a sefydlodd gwmni Phones 4U wedi cyhuddo cwmnïau ffôn fel EE, O2 a Vodafone o “gyd-weithio” i sicrhau bod y cwmni’n mynd i’r wal.

Dywedodd John Caudwell, wnaeth sefydlu Phones 4U yn y 1980au cyn ei werthu am £1.5 biliwn yn 2006, fod penderfyniad annisgwyl y rhwydweithiau ffon i beidio adnewyddu eu cytundebau hefo Phones 4U yn “greulon iawn.”

Fe rybuddiodd y bydd prisiau ffonau yn cynyddu o ganlyniad.

Mae gan y cwmni tua 550 o siopau ledled Prydain, gan gynnwys 20 yng Nghymru, ac mae bron i 5,600 o swyddi gyda’r cwmni dan fygythiad yn dilyn y cyhoeddiad ddoe ei fod wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

“Mae penderfyniad y cwmnïau ffon yn andros o greulon a llym, yn erbyn cwmni sydd wedi rhoi miliynau o gysylltiadau iddyn nhw dros yr 20 mlynedd ddiwethaf,” meddai John Caudwell.

Ychwanegodd mai dim ond y Llywodraeth fedr achub y cwmni erbyn hyn: “Heb gyflenwad gan gwmnïau ffon, does dim busnes.”

Mae Vodafone wedi gwrthod unrhyw honiad fod y cwmni wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod eu trafodaethau gyda Phones 4U, gan ddweud mai cynllun ad-dalu dyledion y cwmni oedd y rheswm iddo dorri cysylltiadau.