Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad sydd wedi lladd tri o filwyr NATO ac anafu degau o bobol eraill ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul.

Mae’n ymddangos bod hunan-fomiwr wedi ffrwydro dyfais ar ffordd brysur rhwng Llysgenhadaeth yr UD i’r maes awyr yn Kabul tua 8:00, amser lleol.

Dywedodd arweinydd heddlu Kabul fod y bomiwr wedi targedu grŵp o gerbydau o dramor.

Fe wnaeth y Taliban hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn datganiad i newyddiadurwyr.

Daw’r ymosodiad yn ystod ansicrwydd am yr etholiadau arlywyddol yn y wlad.