Deifiwr yr heddlu yn chwilio Afon Brent ger Hanwell yn Llundain
Fe fydd dau ddyn yn cael eu holi ynglŷn â llofruddiaeth y ferch ysgol Alice Gross.

Nid oes gan y ddau unrhyw gysylltiad â’i gilydd.

Er gwaetha’r arestiadau, mae’r heddlu’n pwysleisio eu bod yn dal i ymchwilio i ddiflaniad y ferch 14 oed o Hanwell yn Llundain.

Daw’r datblygiad wrth i swyddogion ehangu’r chwilio i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd i Alice Gross
Cafodd ei gweld y tro diwethaf yn cerdded ger camlas yn Llundain ar 28 Awst.

Cafodd dyn 51 oed ei arestio yn Hanwell ddydd Sul a chafodd dyn 25 oed ei arestio yn Ealing ar amheuaeth o lofruddiaeth bnawn dydd Sadwrn.