Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng dau gar i’r gogledd o Tyndyrn (Tintern) yn nyffryn Gwy heddiw.
Fe fu farw gwraig oedrannus a oedd yn teithio yng nghefn un o’r ceir, ac mae bywyd gyrrwr y car arall hefyd mewn perygl.
Aed ag ef, a’r pedwar o bobl eraill a gafodd eu hanafu yn y ddamwain, i ysbyty Southmeads ym Mryste am driniaeth.
Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriadau gwahanol ar yr A466 pan ddigwyddodd y ddamwain tua hanner dydd.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y ddamwain neu a welodd y cerbydau – Ford Fiesta glas ac Opel Manta llwyd – yn teithio cyn y ddamwain.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 272 07/09/14.