Wrth i gynhadledd y TUC agor yn Lerpwl heddiw, mae undebwr blaenllaw yn rhybuddio’r Llywodraeth fod gweithwyr y sector cyhoeddus wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Mae cannoedd o filoedd o weithwyr iechyd wrthi’n pleidleisio ar hyn o bryd ar ddiwrnod o weithredu diwydiannol ar 13 Hydref, ddiwrnod cyn streic 24 awr gan weithwyr cynghorau Cymru a Lloegr.
“Rydym yn dweud mai digon yw digon,” meddai Dave Prentis, arweinydd yr undeb Unsain.
“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn y sector cyhoeddus yn llawer gwaeth na dim byd a wnaeth Thatcher erioed.
“Byddwn yn ymladd ar ran ein haelodau a byddwn yn gweithredu’n ddiwydiannol drwy’r gaeaf ac ymlaen i wanwyn y flwyddyn nesaf os bydd angen.
“Dw i wedi cael fy nghythruddo gan y sôn am 10% o godiad cyflog i Aelodau Seneddol ar adeg y mae’r Llywodraeth wedi torri addewid am 1% o gynnydd i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’n ymddangos bod anghydbwysedd llwyr yn ein cymdeithas.”