Mae ardal y Kashmir wedi ei rhannu rhwng India a Pacistan
Mae llifogydd a thirlithriadau o ganlyniad i ddyddiau o law trwm y monsŵn wedi lladd bron i 300 o bobl yn ardal y Kashmir yng ngogledd India a Pacistan.

Mae’r rhan o’r Kashmir sydd yn India wedi dioddef y llifogydd gwaethaf ers 50 mlynedd, sydd wedi lladd o leiaf 120 o bobl a boddi cannoedd o bentrefi.

Yr ochr arall i’r ffin yn Pacistan, mae mwy na 160 o bobl wedi marw a miloedd o gartrefi wedi cael eu dinistrio, ac mae’r sefyllfa yno’n cael ei disgrifio fel ‘argyfwng cenedlaethol’.

Mae achubwyr yn y ddwy wlad wedi bod yn defnyddio hofrenyddion a chychod i geisio cyrraedd degau o filoedd o bobl sy’n wedi cael eu caethiwo yn eu cartrefi.