Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May wedi cael caniatâd barnwyr i estraddodi dyn, sydd wedi’i amau o droseddau brawychiaeth, i’r Unol Daleithiau.
Daw’r penderfyniad ynghylch tynged Haroon Aswat yn dilyn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain.
Roedd cynlluniau i’w estraddodi wedi cael eu gohirio’n gynharach eleni yn dilyn pryderon am y ffordd y byddai Aswat, sy’n dioddef o salwch meddwl, yn cael ei drin gan yr awdurdodau.
Mae Aswat wedi’i amau o gynllwynio i sefydlu gwersyll Jihadaidd gyda’r brawychwr Abu Hamza yn nhalaith Oregon.
Cafodd Aswat ei drosglwyddo o’r carchar i ysbyty seiciatrig yn 2008, gan ei fod yn dioddef o sgitsoffrenia.
Penderfynodd yr Uchel Lys ym mis Ebrill y gallai cyfnod o garchar olygu bod ei gyflwr meddyliol yn gwaethygu, ac fe ofynnon nhw am sicrwydd y câi driniaeth seiciatrig yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Abu Hamza ei estraddodi ddwy flynedd yn ôl a’i ganfod yn euog o droseddau brawychiaeth gan lys yn Efrog Newydd ym mis Mai.
Mae disgwyl i’r awdurdodau fwrw ymlaen gyda’u cynlluniau i estraddodi Aswat cyn gynted â phosib.