Roedd dynes y cafwyd hyd i’w chorff mewn cae yn y New Forest yn Swydd Hampshire, wedi cael ei thrywanu i farwolaeth.
Cafodd corff Penelope Davis ei ddarganfod mewn cae ger Beaulieu gan ei gŵr oddeutu 4.40yh brynhawn dydd Mawrth.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod profion wedi dangos iddi gael ei thrywanu nifer o weithiau, a’u bod nhw’n cynnal ymchwiliad i’w llofruddiaeth.
Roedd Penelope Davis, er nad oedd hi’n byw yn yr ardal, yn ymweld â’i cheffylau’n ddyddiol i’w bwydo.
Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau a oedd y sawl y maen nhw’n chwilio amdano’n adnabod y ddynes, na chwaith a ydyn nhw wedi dod o hyd i arf.
Apeliodd am wybodaeth gan dwristiaid i’r ardal a allai fod wedi tynnu lluniau oddi ar fws agored.