Mae dyn a gafodd ei drywanu mewn digwyddiad yn Y Coed Duon yng Nghaerffili ar 1 Awst, wedi marw yn yr ysbyty neithiwr.

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Michael Lee Emmett oedd yn 31 oed ac yn dod o’r Coed Duon.

Dywedodd ei bartner, Natalie, a’i deulu ei fod yn “ŵr bonheddig oedd yn rhoi eraill gyntaf o hyd”.

“Roedd yn dad arbennig i’n efeilliaid ac rydym yn gwybod y byddai wedi dotio ar enedigaeth ei ferch gyntaf. Roedd yn fwy na dim ond partner i mi a thad i’n plant, ef oedd fy enaid hoff cytûn, fy ffrind gorau a chafodd ei gymryd oddi arnom ni yn greulon ac yn rhy fuan,” meddai.
Cafodd dyn arall 44 oed o’r Coed Duan hefyd ei drywanu yn yr un digwyddiad ond mae wedi gadael yr ysbyty.

Yn ôl Heddlu Gwent, mae bachgen 16 oed o’r un ardal wedi cael ei arestio yn dilyn y digwyddiad a’i gyhuddo o ddau achos o anafu, o dorri gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac o ymosod ar swyddog heddlu.
Cafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad am 23:15 ar Ffordd Bryn ac Apollo Way ar 1 Awst.