Carwyn Jones yn croesawu Barack Obama
Mae Carwyn Jones wedi croesawu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama i Gymru’n swyddogol.
Gwnaeth yr arweinwyr gyfarfod yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd y bore ma ar ddechrau Uwch Gynhadledd NATO.
Wrth ei groesawu’n ffurfiol, dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Mae ymweliad Arlywydd yr UDA â Chymru ar gyfer Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn achlysur hanesyddol, gan mai dyma’r tro cyntaf i un o Arlywyddion presennol yr UDA ddod ar ymweliad swyddogol â Chymru.”
Dechreuodd y gynhadledd y bore ma yn dilyn ymweliad Obama a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron ag Ysgol Gynradd Mount Pleasant yn ardal Tŷ-du y ddinas.
Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth y ddau arweinydd gyfarch y plant yn Gymraeg, gan ddymuno ‘Bore da’ iddyn nhw.
Fe gafodd yr Arlywydd Obama neges gan y disgyblion yn ei ddiolch am fod yr Arlywydd cyntaf yn y Tŷ Gwyn i ymweld â Chymru.