Mae oddeutu 70 o bobol ar goll wedi i fws ddiflannu yn ystod llifogydd yn Kashmir.

Dywed yr awdurdodau yn India eu bod nhw’n parhau i chwilio am y bws, ond bod yr ymdrechion i ddod o hyd iddo wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y llifogydd.

Diflannodd y bws yn Rajouri, rhan o Kashmir sy’n cael ei rheoli gan lywodraeth India ac sydd yn rhanbarth yr Himalayas.

Yn ddiweddar, mae’r rhanbarth wedi dioddef yn sgil y llifogydd gwaethaf ers 22 o flynyddoedd.

Mae o leiaf 14 o bobol wedi marw yn ystod y deuddydd diwethaf.