Ashya King
Mae rhieni’r bachgen 5 oed sy’n dioddef o ganser, Ashya King, wedi son am eu “rhyddhad” o gael gadael carchar yn Sbaen gan ddweud eu bod yn paratoi i weld eu mab “mor fuan â phosib”.

Cafodd Brett a Naghmeh King eu harestio ddydd Sadwrn ar ôl iddyn nhw gymryd Ashya o Ysbyty Cyffredinol Southampton yn groes i gyngor meddygol ddydd Iau diwethaf.

Fe gawson nhw eu harestio ddydd Sadwrn a’u cadw yn y carchar tra bod llys yn Sbaen yn ystyried cais i’w hestraddodi yn ôl i Brydain.

Ond cafodd y cwpl eu rhyddhau o garchar Soto del Real ger Madrid bnawn ddoe ar ôl i’r awdurdodau ym Mhrydain ollwng yr achos yn erbyn y cwpl.