David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cadeirio cyfarfod brys o’r pwyllgor Cobra bore ma ar ôl i’r grŵp eithafol Islamic State (IS) ddienyddio ail newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau.

Yn y fideo a gafodd ei ryddhau ar-lein, mae IS yn rhybuddio mai gwystl o Brydain fydd nesaf.

Mae’r Prif Weinidog wedi beirniadu “barbariaeth” yr eithafwyr ar ôl i’r fideo “ffiaidd” sydd, mae’n ymddangos, yn dangos Steven Sotloff yn cael ei ddienyddio, gael ei rhyddhau ar-lein neithiwr.

Credir bod Steven Sotloff wedi cael ei ddienyddio gan yr un eithafwr, sy’n siarad gydag acen o Lundain, fu’n gyfrifol am lofruddio’r newyddiadurwr arall o’r UD, James Foley, bythefnos yn ôl.

Yn y fideo mae Steven Sotloff, sy’n newyddiadurwr llawrydd i gylchgrawn Time a chyhoeddiadau eraill, i’w weld yn darllen “neges i America” sy’n beirniadu’r Arlywydd Barack Obama am ei “ymyrraeth” yn Irac.

Mae’r jihadydd, y credir sy’n dod o Brydain, yn ychwanegu yn y fideo: “Rwy nôl, Obama, ac rwy’n ôl oherwydd eich polisi tramor trahaus tuag at Islamic State… er gwaethaf ein rhybuddion difrifol.”

Mewn fideo blaenorol a oedd yn dangos James Foley yn cael ei ddienyddio, roedd yr eithafwyr yn bygwth lladd Steven Sotloff oni bai bod yr Unol Daleithiau yn rhoi’r gorau i ymosod o’r awyr ar IS yn Irac.

Mae’r fideo gafodd ei chyhoeddi neithiwr yn gorffen gyda bygythiad i ladd gwystl arall, sydd mae’n debyg, yn dod o Brydain.

Daw’r fideo ddyddiau’n unig cyn i arweinwyr byd ddod ynghyd yng Nghymru ar gyfer uwch-gynhadledd Nato.