Llun y credir sy'n dangos Steven Sotloff, newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau
Mae fideo wedi cael ei ryddhau ar y rhyngrwyd sy’n honni dangos newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau yn cael ei ddienyddio gan y grwp Islamic State (IS).
Cafodd Steven Sotloff, a oedd yn ohebydd llawrydd i gylchgronnau Time a Foreig Policy, ei weld y tro diwethaf yn Syria ym mis Awst 2013, nes iddo gael ei weld mewn fideo gafodd ei ryddhau ar-lein fis diwethaf gan IS a oedd yn dangos y newyddiadurwr Americanaidd James Foley yn cael ei ddienyddio.
Yn y fideo roedd y terfysgwyr yn bygwth lladd Steven Sotloff oni bai bod yr Unol Daleithiau yn rhoi’r gorau i ymosod o’r awyr ar IS yn Irac.
Yn y fideo gafodd ei ryddhau heddiw, o dan y teitl “Ail Neges i America” mae Steven Sotloff i’w weld yn cael ei ddienyddio gan ymladdwr IS.
Mae’r ymladdwr yn dweud yn y fideo: “Rwy nôl, Obama, ac rwy’n ôl oherwydd eich polisi tramor trahaus tuag at Islamic State… er gwaethaf ein rhybuddion difrifol.”
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud bod y fideo yn “hollol ffiaidd” ac y byddai’n gwneud datganiad yn ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn nad ydyn nhw wedi llwyddo i ddarganfod hyd yma a yw’r fideo yn ddilys.