Syr Cliff Richard
Mae prif gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog wedi ymddiheuro i’r canwr Syr Cliff Richard os oedd y llu wedi bod yn “ansensitif” ynglŷn â’r modd yr oedden nhw wedi chwilio ei gartref.
Dywedodd David Crompton wrth y Pwyllgor Materion Cartref bod y BBC wedi rhoi’r llu “mewn sefyllfa anodd iawn” ar ôl i Scotland Yard roi gwybodaeth i’r gorfforaeth, gan olygu bod Heddlu De Swydd Efrog wedi gorfod dod i gytundeb gyda’r BBC.
Roedd criw ffilmio’r BBC yn aros y tu allan i fflat Syr Cliff yn Berkshire cyn i’r heddlu gyrraedd i chwilio’i gartref fis diwethaf.
Dywedodd David Crompton eu bod yn ofni y byddai’r BBC yn rhedeg y stori petai nhw’n gwrthod dod i gytundeb ac y byddai hynny wedi amharu ar eu hymchwiliad.
“Rwy’n hyderus ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad iawn mewn amgylchiadau anodd ac anarferol,” meddai wrth y pwyllgor.
Ond fe wadodd awgrym gan Gadeirydd y pwyllgor, Keith Vaz, bod y BBC wedi “blacmelio’r” llu.
“Mae blacmel yn air cryf iawn. Fe wnaeth ein rhoi ni mewn sefyllfa anodd iawn.”
Mae’r BBC eisoes wedi cadarnhau na ddaeth y wybodaeth ynglŷn â’r ymchwiliad gan Heddlu De Swydd Efrog.
Dywedodd David Crompton bod staff y BBC wedi ei gwneud yn glir bod y wybodaeth wedi dod gan Operation Yewtree, ymchwiliad Scotland Yard i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn erbyn Jimmy Savile ac eraill.
Fe gyfaddefodd nad oedd wedi mynd at uwch-reolwyr y BBC i ofyn iddyn nhw am beidio rhedeg y stori.
Mae dirprwy gomisiynydd Scotland Yard Martin Hewitt wedi dweud bod y llu yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod a oedd y wybodaeth wedi dod o Lundain.
Mewn sesiwn ar wahân, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall, na fyddai’r gorfforaeth wedi darlledu’r stori petai’r prif gwnstabl wedi dweud wrthyn nhw y byddai gwneud hynny yn amharu ar eu hymchwiliad.