Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw deifiwr 41 oed fu farw mewn pwll yn hen chwarel Dorothea yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Aeth Julian Philip Kelsal o Sir Stafford i drafferthion ym mhwll Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaethau brys eu galw i’r chwarel ychydig cyn 1 o’r gloch.

Cafodd dau ddeifiwr arall eu cludo i’r ysbyty ar ôl ceisio achub Julian Kelsal.

Mae’r pwll dwfn yn hynod beryglus, ac mae degau o ddeifwyr wedi cael eu lladd yno ers i’r chwarel gau yn 1970.