Mae disgyblion ieuengaf Cymru a’u teuluoedd ar eu colled oherwydd diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru o ran darparu prydau bwyd poeth am ddim yn yr ysgol.
Dyna honiad y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig heddiw, wrth i Loegr lansio cynllun gwerth £1 biliwn sy’n darparu cinio am ddim bob diwrnod i ddisgyblion 4-7 oed.
Honnir y bydd y cynllun yn arbed £400 bob blwyddyn i’r teulu cyffredin ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg hyd yn oed wedi dweud bod pryd o fwyd poeth yn gwneud mwy o les i ddisgyblion ifanc na gwers fathemateg neu Saesneg.
Wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Lloegr, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cychwyn deiseb sydd wedi cael ei arwyddo gan “gannoedd” o bobol, yn ôl y blaid.
Manteision
Dywedodd Aled Roberts, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bod y manteision o ddarparu cinio ysgol am ddim bob diwrnod yn “glir”:
“Mae’r buddion o dderbyn pryd o fwyd poeth, iach bob diwrnod yn glir – felly pam nad yw Llafur wedi cyflwyno’r polisi i helpu teuluoedd gyda chostau byw?
“Mewn cynllun peilot tebyg, gwelwyd bod disgyblion oedd yn cael cinio am ddim ar gyfartaledd ddau fis o flaen eu cyfeillion mewn ardaloedd lle nad oedd prydau am ddim yn cael eu cynnig.
“Dangoswyd hefyd sut oedd sgiliau cyfathrebu plentyn yn gwella a bod eistedd i lawr i fwyta pryd o fwyd bob diwrnod yn gwella eu cwrteisi wrth y bwrdd bwyd.”
‘Llanast’
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg Huw Lewis bod y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn “ddiog”.
“Fe ddylen nhw feddwl am syniadau go iawn sy’n berthnasol i Gymru, nid jyst copïo Nick Clegg. Rydym ni eisoes yn darparu prydau bwyd ysgol am ddim i’r rhai sydd eu hangen, ac ry’n ni hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen Brecwast am Ddim, sy’n torri tir newydd.
“Dylai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd edrych ar sut mae cynllun prydau bwyd Nick Clegg yn cael ei weithredu yn Lloegr. Mae’n llanast llwyr. Mae cynghorau ac ysgolion yn gorfod cymryd arian sydd wedi ei glustnodi i wella adeiladau ysgolion a chodi safonau er mwyn ariannu’r prosiect.”