Mae adroddiad gan Heddlu Scotland Yard ynglyn a ffrae ‘Plebgate’ wedi dangos “lefelau uchel iawn o anonestrwydd gan heddweision sy’n gweithio yn Downing Street,” yn ôl un o ASau San Steffan.
Mae Scotland Yard wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau sy’n crynhoi eu hymchwiliad i’r ffrae – Ymchwiliad Alice – lle cafodd pedwar swyddog eu diswyddo.

Yn ogystal, cafodd fideo CCTV, nad oedd wedi cael ei weld gan y cyhoedd cyn hyn, ei ryddhau o’r ffrae rhwng yr heddwas Toby Rowland a’r cyn-Brif Chwip, Andrew Mitchell yn 2012.
Heddiw, fe ddywedodd yr AS, David Davis: “Er bod Ymchwiliad Alice yn adroddiad gan yr heddlu i weithgarwch yr heddlu, mae’n dangos lefelau uchel iawn o anonestrwydd gan heddweision sy’n gweithio yn Downing Street.
“Mae un swyddog wedi cael ei garcharu. Tri arall wedi cael eu diswyddo a dau arall wedi cael rhybuddion ysgrifenedig terfynol.”
Diddordeb cyhoeddus
Ychwanegodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, Patricia Gallan, wnaeth arwain yr ymchwiliad:
“Rydym yn deall y diddordeb cyhoeddus sydd wedi bod i’r achos, a dyna pam ein bod wedi dewis cyhoeddi’r deunydd.
“Wrth galon yr ymchwiliad roedd honiadau difrifol iawn fod heddweision wedi cynllwynio i ddweud celwydd. Does gen i ddim amheuaeth bod yr honiadau yma wedi gwneud drwg i hyder y cyhoedd ynom ni.
“Mae’r heddlu yma i wasanaethu’r cyhoedd gydag onestrwydd. A lle mae ein staff yn methu gwneud hynny, mae’n rhaid cymryd camau yn eu herbyn.”