Ashya King
Mae disgwyl i gamau cyfreithiol yn erbyn rhieni bachgen 5 oed sy’n dioddef o ganser yr ymennydd barhau yn Sbaen heddiw.

Roedd rhieni Ashya King wedi ei gymryd o Ysbyty Cyffredinol Southampton bnawn dydd Iau heb ganiatâd meddygon. Roeddan nhw wedi ei gludo ar fferi i Ffrainc gyda chwech o blant eraill y cwpl cyn teithio i’r Costa del Sol yn Sbaen.

Roedd Brett King, 51, a’i wraig Naghmeh, 45, wedi ymddangos yn y llys ddoe ar ôl iddyn nhw gael eu harestio nos Sadwrn yn Velez-Malaga gan yr heddlu yn Sbaen.

Yn ôl adroddiadau mae disgwyl dyfarniad heddiw ynglŷn â’u trosglwyddo i lys yn Madrid ar gyfer gwrandawiad estraddodi.

Mae’n debyg bod y cwpl wedi teithio i Sbaen er mwyn gwerthu ail gartref sydd ganddyn nhw yno er mwyn ariannu triniaeth ar gyfer eu mab sydd ddim ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Ashya King yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Malaga ar hyn o bryd.