David Cameron
Mae disgwyl i David Cameron gyhoeddi heddiw ei fod am ehangu pwerau gwrthderfysgaeth.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma ond mae trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu a dod i gytundeb terfynol ynglŷn â’r mesurau hyd yma ac mae disgwyl i’r trafodaethau barhau bore ma.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon bod gwledydd Prydain yn wynebu “bygythiad real iawn” ond mae’n gwadu bod cynlluniau’r Llywodraeth yn “ymateb byrbwyll.”

O dan y mesurau sy’n cael eu hystyried mae bwriad i’w gwneud yn haws i gymryd pasborts pobl ar y ffin er mwyn eu hatal rhag teithio i ardaloedd yn y Dwyrain Canol i gysylltu ag eithafwyr Islamic State (IS).

Mae swyddogion hefyd yn ystyried “gwaharddiad dros dro” ar ddinasyddion Prydeinig, sy’n cael eu hamau o weithredoedd terfysgol dramor, rhag dychwelyd. Ond mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Menzies Campbell wedi rhybuddio y gallai mesur o’r fath fod yn anghyfreithlon.

Cam arall sy’n cael ei ystyried yw sicrhau bod cwmnïau awyrennau yn rhannu gwybodaeth am deithwyr. Mae rhai cwmnïau yn rhyddhau’r wybodaeth dim ond hanner awr cyn bod yr awyren yn cychwyn ei thaith gan roi ychydig iawn o amser i’r heddlu ac asiantaethau cudd-wybodaeth i graffu ar yr enwau.

Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Ashdown wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o or-ymateb drwy godi lefel y bygythiad terfysgol o un “sylweddol” i “ddifrifol” gan honni bod gweinidogion yn ceisio dychryn pobl mewn ymdrech i sicrhau cefnogaeth i’r pwerau newydd.

Ond mae Michael Fallon yn mynnu bod angen cymryd camau i ddelio’r gyda’r bygythiadau.
Credir bod cannoedd o ddinasyddion Prydeinig, gan gynnwys tri o Gaerdydd, wedi teithio i Irac a Syria i ymuno ag eithafwyr IS.