Mae deifiwr wedi marw a dau arall mewn ysbyty ar ôl digwyddiad mewn pwll chwarel yng Ngwynedd prynhawn dydd Sul.

Cafodd y dyn 41 oed ei dynnu allan gan ddau ddeifiwr ar ôl mynd i drafferthion yn Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.

Aed ag ef mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor, lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:

“Ychydig wedi 1.15pm cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Chwarel Dorothea, yn dilyn adroddiadau bod deifiwr wedi cael ei dynnu allan ar ôl mynd i drafferthion pan oedd 40 metr o dan yr wyneb.

“Cafodd y dyn 41 oed ei dynnu allan gan ddau ddeifiwr arall.

“Mae’r ddau ddeifiwr a’i helpodd wedi cael eu cymryd i ysbyty yng Nghilgwri am driniaeth ddad-gywasgu.”

Ychwanegodd fod yr heddlu’n ymchwilio i amgylchiadau llawn y digwyddiad.