Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Gydag ychydig dros bythefnos i fynd tan y refferendwm ar annibyniaeth, mae Prif Weinidog yr Alban yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddenu ‘etholwyr coll’ y wlad.

Gobaith Alex Salmond yw y bydd cefnogaeth cannoedd o filoedd o bobl nad ydyn nhw erioed wedi pleidleisio o’r blaen yn ddigon i droi’r fantol o blaid annibyniaeth.

Ddiwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, fe fydd yn gwneud apêl arbennig yfory i atgoffa pobl i sicrhau eu hawl i bleidleisio yn y refferendwm ar 18 Medi.

“Ym mhob rhan o’r Alban, mae mwy nag erioed o bobl wedi bod yn cofrestru i bleidleisio,” meddai Alex Salmond.

“Fe fydd llawer o’r bobl yma’n pleidleisio am y tro cyntaf yn eu bywydau.

“Mae’r refferendwm yma’n bleidlais unigryw a hanesyddol ac mae’r rheini nad ydyn nhw byth yn arfer cymryd rhan mewn pleidleisiau – miliwn coll yr Alban – yn debyg o chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniad y genedl ar 18 Medi.”

‘Ennill tir’

Gan gydnabod bod cefnogwyr annibyniaeth yn dal ar ei hôl hi, dywedodd eu bod nhw’n ennill tir yn barhaus.

“Mae nifer enfawr, cannoedd o filoedd o gefnogwyr Llafur, bellach yn cefnogi Ie yn yr ymgyrch,” meddai.

“Mae’n cefnogaeth ni’n cynyddu. Rydym yn dal ar ei hôl hi, mae gennym ffordd i fynd o hyd, ond os ydym yn gwneud David Cameron deimlo’n bryderus mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn.”

Ukip am gynnal rali

Mae Alex Salmond yn pwyso ar gefnogwyr annibyniaeth i gadw draw oddi wrth ralïau unoliaethwyr.

Fe wnaeth ei apêl ar ôl i bobl daflu wyau at yr Aelod Seneddol Llafur Jim Murphy, ac ar ôl i Ukip gyhoeddi y byddan nhw’n cynnal rali o blaid y Deyrnas Unedig yn Glasgow ddiwedd yr wythnos nesaf.

“Dw i’n condemnio unrhyw daflu wyau ac unrhyw fygwth gan y naill ochr neu’r llall,” meddai.

“Ac os bydd Nigel Farage yn dod yma a denu sylw mawr yn yr ychydig ddyddiau nesaf, anwybyddwch ef, fe fydd yn ôl yn Clacton yn fuan iawn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Better Together na fydden hwythau chwaith yn croesawu Nigel Farage i’r Alban:

“Does gan Ukip ddim rhan i’w chwarae yn ein hymgyrch ni,” meddai. “Rydym yn ymgyrchu yn erbyn polisïau cenedlaetholgar o rannu a chwyno.”

Amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd

Yn y cyfamser, mae arbenigwr ar bolisi iechyd yn Llundain wedi dweud ei bod hi’n gobeithio gweld pobl yr Alban yn cefnogi annibyniaeth er mwyn amddiffyn a hyrwyddo’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol cyhoeddus.

Dywed Allyson Pollock, athro ymchwil a pholisi iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Llundain, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “diddymu’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr fel gwasanaeth i bawb”.

Er bod iechyd wedi ei ddatganoli i’r Alban, bydd unrhyw leihad mewn cyllid yn Lloegr yn arwain at leihad yng nghyfanswm grant yr Alban, meddai.

“Yn absenoldeb unrhyw newid i bolisïau marchnad rydd yn Lloegr, y ffordd fwyaf amlwg o amddiffyn a hyrwyddo’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol cyhoeddus yw pleidleisio dros i’r Alban gael pwerau a chyfrifoldebau llawn gwlad annibynnol,” meddai.