Ar ôl mis Awst oerach nag arfer, mae gobaith i’r tywydd gynhesu’n raddol drwy’r wythnos nesaf.
Er bod disgwyl i fis Medi ddechrau gyda diwrnod cymylog a glawog ar brydiau yfory, dywed y Swyddfa Dywydd gallai’r tymheredd godi i 24 neu 25 gradd mewn rhai ardaloedd erbyn dydd Gwener.
Meddai Krista Mitchell o’r Swyddfa Dywydd:
“Yr hyn sydd gennym yw pwysedd uchel yn codi a fydd yn dod â thywydd mwy sefydlog ac ychydig yn gynhesach.
“Dyw hi ddim am fod yn heulwen ddi-dor, ond fe fydd ysbeidiau heulog, ac yn gyffredinol fe fydd y tymheredd yn codi bob dydd o ddydd Mawrth ymlaen.”