Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin (Llun: PA)
Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi galw ar lywodraeth yr Wcrain i gychwyn trafodaethau ar unwaith ar ateb gwleidyddol i’r gwrthdaro yn nwyrain y wlad.
Mae rhyfel cartref wedi bod yn nwyrain yr Wcrain ers mis Ebrill rhwng lluoedd y llywodraeth a gwrthryfelwyr sy’n ceisio torri’n rhydd oddi wrth weddill y wlad a sefydlu perthynas agosach â Rwsia.
Er bod Rwsia wedi bod yn galw’n gyson am drefn ffederal ddatganoledig i’r Wcrain, mae’n gwadu’n llwyr gyhuddiadau gan yr Wcrain a gwledydd y gorllewin ei bod yn anfon milwyr ac offer i’r gwrthryfelwyr.
Daw galwad ddiweddaraf Putin wrth i’r gwrthryfelwyr adennill tir yn nwyrain yr Wcrain. Mae lluoedd y llywodraeth wedi gorfod tynnu allan o amryw o drefi dros yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r gwrthryfelwyr hefyd wedi agor ffrynt newydd ar hyd arfordir de-ddwyreiniol Môr Azov a allai fod yn arwydd o fwriad i sefydlu pont o dir rhwng Rwsia a phenrhyn Crimea sydd wedi bod yn nwylo Rwsiaid ers mis Mawrth.