Peter Black, AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros dde-orllewin Cymru
Mae rhieni plant ysgolion babanod ar fin bod £400 y flwyddyn ar eu colled o gymharu â rhieni cyfatebol yn Lloegr, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae hyn, meddai’r Aelod Cynulliad Peter Black, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynllun newydd sy’n cael ei gyflwyno yn Lloegr yr wythnos yma.

Drwy’r cynllun yma, bydd pob plentyn mewn oedran ysgol babanod yn Lloegr yn cael prydau ysgol am ddim.

Mae’n feirniadol o Lywodraeth Cymru am benderfynu gwario’r arian oedd ar gael ar gyfer hyn ar bethau eraill.

“Bydd cinio iach a maethlon i bob plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn arbed arian i rieni, yn gwella addysg plant ac yn sicrhau bod mwy o blant yn bwyta pryd iach a maethlon o leiaf unwaith y dydd,” meddai.

“Dw i’n siomedig o weld bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu peidio â chyflwyno’r mesur yma.

“Fe fydd llawer o blant bach yng Nghymru’n cael eu gorfodi i ddibynnu ar becynnau o fwyd afiach oherwydd nad yw eu rheini’n gallu fforddio cost prydau ysgol.

“Diolch i Nick Clegg a’r Democratiaid Rhyddfrydol mae plant Lloegr am gael bwyd am ddim o’r wythnos nesaf ymlaen. Pam nad yw Llywodraeth Lafur Cymru’n gwneud yr un fath?”