Terfysgwyr Islamic State yn ymosod ar filwyr Irac ym mis Mehefin (Llun: PA)
Mae awyrennau’r Llu Awyr wedi bod yn cludo tunelli o fwyd a dŵr i drigolion tref sydd o dan warchae yn Irac.

Mae Amirli wedi bod yn nwylo terfysgwyr Islamic State ers bron i ddeufis.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon fod lluoedd America wedi ymosod o’r awyr ar dargedau Islamic State er mwyn helpu’r rhaglen gymorth – ond na fu disgwyl i Brydain gymryd rhan mewn unrhyw weithredu milwrol.

“Ni ofynnwyd inni anfon milwyr ar y ddaear nac i ymuno yn yr ymosodiadau o’r awyr,” meddai.

“Ond rydym wedi bod yn anfon cymorth dyngarol. Gallaf gadarnhau imi awdurdodi dwy awyren Hercules neithiwr i gymryd rhan mewn gollwng nwyddau o’r awyr ar Amirli, tref sydd wedi bod o dan warchae ers bron i ddeufis.

“Fe wnaeth yr RAF ollwng 14 tunnell o fwyd a dŵr yno i boblogaeth Shia sydd wedi cael eu hynysu’n llwyr.”