Llosgfynydd Grimsvotn yng Ngwlad yr Ia, lle bu ffrwydrad llawer mwy yn 2011 (o wefan Rhaglen Losgfynyddoedd y byd)
Mae’r awdurdodau yng Ngwlad yr Ia wedi cyhoeddi rhybudd i awyrennau ar ôl ffrwydrad bach mewn llosgfynydd y bore yma.

Caiff ffrwydrad llosgfynydd Bardarbunga ei ddisgrifio fel “llif tawel o lafa na ellir prin ei weld ar seismometer”.

Hwn yw’r trydydd ffrwydrad ym maes lafa Holuhraun o fewn ychydig dros wythnos.

Caiff cwmnïau hedfan eu rhybuddio i gadw draw o safle’r ffrwydrad, ond mae pob maes awyr yn dal yn agored.

Mae llwch folcanig yn difrodi awyrennau a gall fod yn beryglus.