(Map o wefan Wikipedia yn dangos lleoliad Libya)
Ofnir bod dros 100 o ymfudwyr wedi boddi ar ôl i’w cwch droi drosodd yn y Môr Canoldir gerllaw arfordir Libya.
Cafwyd hyd i weddillion cwch rwber ar yr arfordir tua 30 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas Tripoli yn gynnar y bore yma.
Er nad oes cadarnhad swyddogol o’r nifer o farwolaethau, amcangyfrifir bod y cwch yn cludo o leiaf 100 o bobl.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth o leiaf 100 o ymfudwyr o Affrica, gan gynnwys pump o blant, foddi yn yr un ardal.
Ers disodli’r unben Muammar Gaddafi yn 2011, mae Libya yn cael ei defnyddio fwyfwy fel man cychwyn i ymfudwyr o wledydd i’r de o’r Sahara sy’n chwilio am fywyd gwell. Caiff cannoedd ohonyn nhw eu lladd bob blwyddyn ar y daith beryglus i Ewrop.