Shaun Wright
Fe ddylai Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Sir Efrog ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i gam-drin plant yn Rotherham, meddai’r Blaid Lafur.
Roedd Shaun Wright yn gynghorydd Llafur yng nghabinet Cyngor Rotherham ac roedd yn gyfrifol am wasanaethau plant yn y dref rhwng 2005 a 2010.
Dros gyfnod o 16 mlynedd, sy’n cynnwys y cyfnod yma, roedd tua 1,400 o blant wedi cael eu hecsbloetio yn rhywiol yn Rotherham, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ddoe.
Heddiw, fe ymddiheurodd Shaun Wright am fethiannau Cyngor Rotherham ond mae’n mynnu nad oedd yn ymwybodol o faint y broblem yn ystod y cyfnod y bu’n gynghorydd yn y dref.
Ond mae’r Blaid Lafur yn dweud y dylai gamu o’i swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Sir Efrog yn sgil cyhoeddi’r adroddiad damniol i’r helynt.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Roedd canfyddiadau’r adroddiad i gam-drin plant yn Rotherham dorcalonnus. Cafodd plant bregus eu cam-drin dro ar ôl tro ac yna eu gadael i lawr.
“Yn sgil yr adroddiad yma, mae’n briodol bod Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Sir Efrog, Shaun Wright, yn ymddiswyddo.”
Roedd yr adroddiad wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiadau yn Rotherham rhwng 1997 a 2013, gan ddod i’r casgliad bod cyfres o fethiannau wedi bod yn arweinyddiaeth Cyngor Rotherham.
Fe gyhoeddodd arweinydd y cyngor, Roger Stone, ddoe ei fod yn gadael ei swydd ar unwaith.
Cafodd Shaun Wright ei ethol i rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2012. Mae’n mynnu ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb am fethiannau’r cyngor drwy adael ei swydd yn 2010 pan ddaeth yr helynt i’r amlwg. Dywedodd y byddai wedi cymryd camau pendant petai wedi bod yn ymwybodol o faint y broblem yn y dref.
Dywedodd awdur yr adroddiad heddiw, yr Athro Alexis Jay, “o ystyried faint o wybodaeth oedd ar gael i’r asiantaethau erbyn mis Ebrill 2005 ni all unrhyw un ddweud ‘doeddwn i ddim yn gwybod.”