Yr heddlu yng Ngharnifal Notting Hill
Cafodd dau o blismyn eu hanafu ar ail ddiwrnod Carnifal Notting Hill yn Llundain.

Cafodd plismon 33 oed ei gludo i’r ysbyty ar ôl ymosodiad arno wrth iddo geisio arestio rhywun yn y digwyddiad yng ngorllewin Llundain.

Cafodd plismones arall 35 oed hefyd ei hanafu wrth iddi geisio ei helpu.

Mae’r ddau bellach wedi gadael yr ysbyty.

Dywed Heddlu’r Met eu bod nhw wedi gweithredu pwerau stopio a chwilio yn y Carnifal rhwng 7yh neithiwr a 2yb heddiw yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau treisgar.

Mae 261 o bobl bellach wedi cael eu harestio yn ystod y digwyddiad dros y deuddydd diwethaf.

Mae 7,000 o blismyn wedi bod ar ddyletswydd wrth i filoedd o bobl fynychu’r Carnifal, er gwaetha’r glaw.