Alex Salmond
Alex Salmond ddaeth i’r brig mewn dadl deledu allweddol am refferendwm annibyniaeth yr Alban yn erbyn Alistair Darling neithiwr.
Dangosodd arolwg barn gan ICM i bapur newydd y Guardian bod 71% o’r rhai a holwyd yn credu mai Prif Weinidog yr Alban berfformiodd orau yn y ddadl, a gafodd ei darlledu ar y BBC, o’i gymharu â 29% oedd yn meddwl bod arweinydd yr ymgyrch Na wedi gwneud orau.
Yn dilyn y ddadl gyntaf fis diwethaf, roedd y cyn ganghellor, Alistair Darling, wedi gwneud orau yn ôl y gwylwyr.
Unwaith eto, pa arian fyddai’r Alban annibynnol yn ei ddefnyddio’r oedd yn ganolog i’r ddadl neithiwr.
Ond fe wnaeth Alistair Darling dderbyn y gallai’r Alban ddefnyddio’r bunt sterling hyd yn oed os na fyddai San Steffan yn cytuno i drefniant o’r fath.
Meddai Alistair Darling: “Wrth gwrs y gallem ni ddefnyddio’r bunt … fe allem ni ddefnyddio’r rwbl, y ddoler, yr yen. Fe allem ni ddefnyddio unrhyw beth yr ydym ni ei eisiau..”
‘Angerddol’
Meddai Blair Jenkins, prif weithredwr yr ymgyrch o blaid annibyniaeth: “Roedd hwn yn fuddugoliaeth lethol i’r ymgyrch Ie. Roedd neges y Prif Weinidog yn glir, yn optimistaidd ac yn angerddol.”
Ond dywedodd cyfarwyddwr yr ymgyrch Na, Blair McDougall: “Dyw Alex Salmond dal methu rhoi ateb credadwy ynglyn ag arian. Er bod y byd yn gwylio, fe aeth o hyd yn oed mor bell a bygwth peidio talu ein dyledion..”
Roedd pwyntiau trafod eraill yn ystod y ddadl 90 munud yn cynnwys dyfodol y Gwasanaeth Iechyd mewn Alban annibynnol a chronfeydd olew’r Alban.
Fe wnaeth tua 60 o fyfyrwyr gasglu mewn bar yn Undeb Prifysgol Brenhines Margaret yng Nglasgow i wylio’r ddadl.
Meddai Caelum Davies, myfyriwr gwleidyddiaeth 20 mlwydd oed o Gymru: “Rwy’n credu bod Alex Salmond wedi gwneud ychydig yn well.
“Mae wedi bod ychydig yn llyfnach gyda’i eiriau ac yn gyflymach oddi ar y marc.
“Dyw Alistair Darling ddim yn cyflwyno’i ddadleuon yn dda iawn, ac mae hynny wedi bod o help i Alex Salmond.