Bedd Alexander Litvinenko
Mae gweddw ysbïwr a gafodd ei wenwyno wedi dweud y bydd y “byd i gyd” yn gwybod y gwir am beth ddigwyddodd i’w gŵr.

Fe wnaeth Marina Litvinenko ei sylwadau wrth i ymchwiliad cyhoeddus i’w farwolaeth gael ei agor yn swyddogol.

Mae dirgelwch ynglŷn â marwolaeth Alexander Litvinenko, oedd yn gyn swyddog KGB, a gafodd ei wenwyno ar ôl yfed te oedd yn cynnwys sylwedd ymbelydrol, polonium-210, wrth iddo gwrdd â dau o’i gyn gydweithwyr mewn gwesty yn Llundain yn 2006.

Y tu allan i’r Llysoedd Barn Brenhinol heddiw, dywedodd Marina Litvinenko ei bod yn siŵr y byddai’r ymchwiliad yn mynd rhagddo ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Yn gynharach yn y gwrandawiad, fe wnaeth cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Robert Owen, ganmol Marina Litvinenko am ei hamynedd yn wyneb yr oedi “anffodus iawn”.

Dywedodd Marina Litvinenko fod heddiw yn ddiwrnod “arbennig” ac roedd yn hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dechrau ar amser.