Mikaeel Kular
Mae mam wedi ymddangos yn y llys ar  gyhuddiad o lofruddio ei mab tair blwydd oed.

Mae Rosdeep Adekoya, 34, wedi cael ei chyhuddo o ymosod ar Mikaeel Kular yn ei chartref yng Nghaeredin ym mis Ionawr a chuddio ei gorff mewn coedwig yn Fife.

Honnir hefyd ei bod hi wedi ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy ddweud wrth yr heddlu ei fod wedi mynd ar goll, gan sbarduno ymdrech i chwilio am y bachgen gan y gwasanaethau brys ac aelodau o’r cyhoedd.

Yn y gwrandawiad yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin heddiw gohiriodd y barnwr yr achos tan 25 Gorffennaf ar gais yr erlyniad a’r amddiffyniad. Dywedodd cyfreithiwr Rosdeep Adekouya bod “nifer o gymhlethdodau” yn yr achos.

Mae Rosdeep Adekoya wedi cael ei chyhuddo o ddyrnu ei mab ac achosi i’w gorff daro yn erbyn gwrthrych caled, neu achosi anafiadau i’w ben a’i gorff rhwng 12 ac 15 Ionawr.

Honnir ei bod wedi lapio corff Mikaeel mewn gorchudd, ei roi mewn ces a gyrru i Dunvegan Avenue yn Fife, ble mae’r erlyniad yn dweud ei bod wedi cuddio ei gorff o dan lwyn mewn coedwigoedd tu ôl i dŷ.